Sut i ddefnyddio tail a slyri yn briodol

Mae’r cyngor hwn i gefnogi ffermwyr, tirfeddianwyr a chynhyrchwyr i reoli tail a slyri da byw.

Nid yw hwn wedi’i fwriadu i fod yn ganllaw technegol cynhwysfawr ar sut i gydymffurfio â’ch holl rwymedigaethau mewn perthynas â thail a slyri da byw ac ni ddylid ei ddehongli felly. Cyhoeddir y cyngor generig hwn i dynnu sylw at faterion rheoleiddio allweddol y dylech fod yn ymwybodol ohonynt er mwyn eich galluogi i wneud eich penderfyniadau eich hun a/neu i gael eich cyngor annibynnol eich hun.

Dosbarthu gwastraff 

Mae hyn yn berthnasol i unrhyw un sy’n rheoli ac yn trin tail a slyri da byw. Rhaid i gynhyrchydd/deiliad y deunyddiau hyn wneud asesiad o’r gofynion rheoleiddio ar gyfer storio, cludo, trin a defnyddio ac unrhyw effeithiau amgylcheddol posibl o gyflawni’r gweithgareddau hyn. Mae hyn er mwyn llywio’r asesiad ynghylch a ydynt yn wastraff ai peidio.

Cyfrifoldeb cynhyrchydd/deiliaid deunyddiau yw penderfynu a ydynt yn rheoli ac yn trin gwastraff a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol perthnasol.

Pan gaiff tail a slyri da byw eu rhoi ar dir heb unrhyw fanteision amlwg i’r pridd a thyfiant cnydau – er enghraifft, os ydynt yn darparu mwy o faethynnau nag sy’n ofynnol ac yn peri risg o niwed i’r amgylchedd wrth eu defnyddio – cânt eu hystyried yn wastraff. Mae tail a slyri da byw a ddefnyddir mewn proses drin ar y fferm, neu a anfonir i broses drin, fel compostio neu dreulio anaerobig, yn wastraff a bydd yn ddarostyngedig i reoliadau gwastraff, gan gynnwys dyletswydd gofal ar gyfer ei symud a’r angen am drwydded amgylcheddol neu esemptiad ar gyfer ei drin.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i ddosbarthu gwastraff yn: Waste classification technical guidance – GOV.UK (mae’r canllawiau hyn yn berthnasol yng Nghymru).

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth i’ch cynorthwyo i wneud y penderfyniad cywir yn: Check if your material is waste – GOV.UK (mae’r canllawiau hyn yn berthnasol yng Nghymru).

Gallwch ddysgu mwy am ofynion y ddyletswydd gofal ar ein tudalennau am y ddyletswydd gofal gwastraff ar gyfer sefydliadau.

Storio

Efallai na fydd storio tail a slyri da byw yn ddiogel, lle mae sicrwydd o ddefnydd buddiol a reolir trwy fesurau wedi’u cynllunio a’u cyflawni, yn dod o dan y gyfundrefn rheoli gwastraff. Mae’r mesurau arfer amaethyddol da cydnabyddedig hyn yn cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i, gynlluniau rheoli tail a maethynnau a chofnodion gwasgaru tail.

Darllenwch fwy am arferion amaethyddol da yng Nghymru.

Os mai eich bwriad yw storio tail a slyri da byw heb unrhyw sicrwydd amlwg o ddefnydd buddiol neu lle mae’r defnydd yn peri risg o achosi niwed i’r amgylchedd, bydd y storio hwn yn dod o dan y gyfundrefn rheoli gwastraff. Gall hyn fod yn berthnasol i’r holl dail a slyri da byw sy’n cael eu storio, neu i faint penodol ohonynt.

Rhaid storio’r holl dail a slyri da byw a gynhyrchir ar eich fferm neu a fewnforir iddi fel y manylir yn Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Y gofynion lleiaf yw’r rhain, ac efallai y bydd angen safonau rheoleiddio ychwanegol ar gyfer unrhyw storio gwastraff ychwanegol.

Darllenwch fwy am storio silwair a slyri yn ddiogel.

Defnyddio tail a slyri da byw fel gwrtaith / cyflyrydd pridd

Yn gyffredinol, nid ystyrir tail a slyri da byw sy’n sicr o gael eu defnyddio fel gwrtaith yn unol â’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol ac arferion amaethyddol da yn wastraff. Gall tail a slyri da byw ddarparu rhywfaint neu’r holl faethynnau sydd eu hangen ar y pridd a’r cnydau, a all ddileu neu leihau’r angen am ddeunydd gwrtaith wedi’i weithgynhyrchu. Mae hyn yn cefnogi economi gylchol ac yn dilyn egwyddorion yr hierarchaeth wastraff.

Os byddwch yn datgan nad yw eich tail a’ch slyri da byw yn wastraff ac nad ydynt yn destun rheolaethau gwastraff, rhaid i chi allu dangos hyn a darparu tystiolaeth na fyddant yn peri risg o achosi niwed.

Rhaid i chi allu darparu tystiolaeth bod y swm o dail da byw a slyri rydych chi’n ei gynhyrchu wedi’i fwriadu i’w ddefnyddio’n fuddiannol ac na fydd yn peri risg o niwed i’r amgylchedd wrth ei storio, ei gludo a’i ddefnyddio. Fel cynhyrchydd neu ddeiliad tail a slyri da byw, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau y gellir dangos hyn drwy unrhyw gadwyn gyflenwi. Eich cyfrifoldeb chi yw atal niwed amgylcheddol drwy gael mesurau rheoli risg digonol ar waith. Gallwch ddefnyddio cynlluniau rheoli tail a rheoli maethynnau i gynorthwyo gyda hyn, ond rhaid i chi sicrhau bod unrhyw gynllun yn addas ar gyfer eich amgylchiadau o ystyried a fyddwch chi’n allforio neu fewnforio eich tail a’ch slyri da byw neu eu defnyddio eich hun.

Hyd yn oed pan fo cynlluniau rheoli tail a maethynnau digonol ar waith ar gyfer defnyddio tail a slyri da byw yn briodol, os caiff y deunyddiau hyn eu gwasgaru mewn modd afreolus, byddant yn cael eu hystyried yn wastraff. Mae defnydd anghyfreithlon sy’n methu â darparu manteision ac yn peri risg o niwed i’r amgylchedd yn dangos bod y deunydd wedi’i waredu yn hytrach na’i ddefnyddio’n briodol.

Cynlluniau rheoli maethynnau a thail

Os ydych chi’n datgan nad yw eich tail a’ch slyri da byw yn wastraff, yna rhaid i chi sicrhau bod y cynllun/cynlluniau rheoli tail a maethynnau (ac unrhyw dystiolaeth berthnasol arall) yn gallu dangos bod digon o sicrwydd o ddefnydd buddiol ar gyfer faint o dail a slyri da byw sy’n cael ei storio, a bod parseli o dir wedi’u nodi’n glir ac wedi’u hasesu i dderbyn y deunydd hwn heb achosi niwed i’r amgylchedd.

Mae cynllun rheoli tail yn manylu ar gyfaint y tail a’r slyri da byw a gynhyrchir a sut maen nhw’n cael eu casglu, eu symud, eu storio, eu trin a’u defnyddio. Rhaid i’r cynllun fod ar waith o’r pwynt cynhyrchu i’r safle pen y daith, gyda chadwyn reoli a chyfrifoldeb glir ar waith. Mae hefyd angen i bob “deiliad” allu darparu tystiolaeth o statws y tail a’r slyri.

Os ydych chi’n gwasgaru tail a slyri da byw ar eich tir, dylech chi lunio cynllun rheoli maethynnau fel rhan o’ch cynllun rheoli tail. Rhaid i hyn hefyd ystyried tail a slyri da byw sydd wedi’u mewnforio. Bydd y cynllun rheoli maethynnau hwn yn bwysig i chi ddangos bod angen yr hyn rydych chi’n bwriadu ei wasgaru ar y pridd a’r cnwd. Pan fyddwch chi’n mewnforio tail a slyri da byw i’ch tir, rhaid i chi sicrhau eich bod wedi cytuno ar y cynnwys maethynnau a maint y deunydd yr oedd ei angen arnoch cyn iddo gyrraedd. Bydd cynllun rheoli maethynnau yn manylu ar y lefel a’r math o faethynnau a fydd yn gwella tyfiant eich cnydau yn seiliedig ar anghenion y pridd a’r cnydau.

Os ydych chi’n allforio tail a slyri da byw i fferm arall fel gwrtaith / cyflyrydd pridd ac yn datgan nad yw’n wastraff, rhaid i chi ddangos bod gan y tir sy’n ei dderbyn gynllun rheoli maethynnau ar waith. Rhaid i’r cynllun hwn ddangos bod angen y swm o dail neu slyri da byw rydych chi’n ei gyflenwi, a bod hyn at ddefnydd buddiol. Byddwch yn gynhyrchydd os ydych chi’n allforio tail a slyri da byw a’ch cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod chi’n storio ac yn symud y deunydd hwn yn briodol. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau eich bod wedi asesu ei statws gwastraff yn llawn.

Darllenwch fwy am gynlluniau rheoli tail a maethynnau.

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau arferion gorau ar wasgaru tail a slyri i gnydau ar wefan y Bwrdd Datblygu Amaethyddol a Garddwriaethol.

Beth yw diffiniad defnydd buddiol?

Rhaid i’r pridd a’r cnwd fod angen yr holl faethynnau sy’n cael eu rhoi ar yr adeg y maent yn cael eu gwasgaru. Ni ddylai amseriad a dull y gwasgaru beryglu niwed i’r amgylchedd chwaith. Os yw’r tail neu slyri da byw rydych yn eu gwasgaru yn cynnwys maethynnau nad oes eu hangen ar y pridd a’r cnwd, bydd y rhain yn cael eu colli i’r amgylchedd ehangach a byddant mewn perygl o achosi niwed i’r amgylchedd.

Er enghraifft, os oes angen lefel benodol o nitrogen ar y pridd a’r cnwd ond nad oes angen unrhyw ffosffad arnynt o ystyried cynnwys maethynnau gweddilliol a’r hyn sydd ar gael yn y pridd, yna ni ddylid rhoi ffosffad ychwanegol. Byddai hyn yn dangos bod rhoi eich tail neu slyri da byw yn weithgaredd gwaredu gwastraff.

Gwnewch yn siŵr bod eich tail neu slyri da byw yn cael ei wasgaru’n iawn

Waeth beth fo statws y gwastraff, rhaid i bob gwasgariad o dail a slyri da byw ar dir gael ei wneud yn unol â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.

Lawrlwythwch ganllawiau pellach ar y rheoliadau hyn i ffermwyr ar wefan Llywodraeth Cymru.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am anghenion tystiolaeth ar ein tudalen cynlluniau rheoli tail a maethynnau.

Diweddarwyd ddiwethaf