Gweithgareddau a allai fod yn eithriedig rhag trwydded forol
Gall rhai gweithgareddau sy’n drwyddedadwy forol fod yn eithriedig a heb angen trwydded forol. Mae’r rhain wedi’u nodi yng Ngorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011 a Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026. Yn ogystal, mae esemptiadau a nodir yn adran 75 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.
Byddwch yn ymwybodol bod y gorchymyn gweithgareddau esempt yn berthnasol i weithgareddau a gynhelir yn rhanbarth glannau Cymru a dyfroedd môr mawr Cymru. Mae rhanbarth glannau Cymru sy’n wynebu’r môr yn ymestyn 12 milltir forol o benllanw cymedrig y gorllanw i’r ffin diriogaethol. Mae rhanbarth dyfroedd môr mawr Cymru yn ymestyn y tu hwnt i’r terfyn tiriogaethol ac yn cynnwys pob rhan o’r môr o fewn parth Cymru.
Os ydych chi’n bwriadu dibynnu ar esemptiad(au), rhaid i chi sicrhau eich bod chi’n bodloni’r meini prawf ac amodau cymhwyso perthnasol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhai canllawiau ar ddefnyddio’r esemptiadau. Lle na ellir bodloni amodau llawn yr esemptiad, mae angen trwydded forol.
Pan fo esemptiad trwydded forol yn berthnasol, nid yw’n dileu’r gofyniad i chi sicrhau’r holl gydsyniadau neu ganiatadau eraill sydd eu hangen ar gyfer eich gweithgaredd arfaethedig.
Mae rhai amodau cyffredin ar gyfer esemptiadau y mae’n rhaid eu bodloni cyn y gellir defnyddio’r esemptiad ac maent yn amrywio o un esemptiad i’r llall. Rhai o’r amodau cyffredin yw asesu’r risg i fordwyaeth, i’r amgylchedd ac i longddrylliad gwarchodedig / asedau hanesyddol, ac asesu’r effaith ar ardaloedd perygl dynodedig y Weinyddiaeth Amddiffyn ac ardaloedd lle cynhelir ymarferion. Lle bu angen trafodaeth a chyngor gyda’r cyrff hyn, efallai y bydd angen rhoi gwybod iddynt ymlaen llaw. Mae’r rhain wedi’u manylu yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru.
I benderfynu a yw eich gweithgaredd arfaethedig yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar ardal forol warchodedig, cynefin gwely’r môr sensitif, neu’r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, rhaid i chi ymgysylltu â chorff cadwraeth natur statudol. Ar gyfer rhanbarth glannau Cymru, cysylltwch â’n tîm cynghori yn marine.advice@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu, ar gyfer rhanbarth dyfroedd môr mawr Cymru, cysylltwch â’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, gan gadw cofnod o’r drafodaeth at ddibenion cydymffurfio a gorfodi. Dylech hefyd ddilyn unrhyw ganllawiau perthnasol a gynhyrchwyd gan y corff cadwraeth natur statudol perthnasol fel y bo’n briodol.
Gellir cymryd camau gorfodi os penderfynir yn ddiweddarach nad yw’r gweithgaredd, neu’r amgylchiadau y cafodd ei gynnal ynddynt, yn gyson â thelerau’r esemptiad perthnasol.
Dylech gysylltu â ni (marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk) a thîm gorfodi Llywodraeth Cymru (marinelicensingenforcement@llyw.cymru) 15 diwrnod cyn i unrhyw weithgaredd esempt ddechrau, gan nodi dyddiad y gwaith arfaethedig a’r esemptiad y dibynnir arno.
Darperir y rhestr hon fel canllaw, ac os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y gallu i fodloni esemptiad, dylech ymgynghori â’r ddeddfwriaeth ac efallai yr hoffech ystyried cael eich cyngor cyfreithiol eich hun.
Gweithgareddau sy’n dod o fewn Rhan 6 o Ddeddf Llongau Masnach 1995
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgareddau sy’n dod o dan Ran 6 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 (atal llygredd).
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 7 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Cyfarwyddyd diogelwch o dan Ddeddf Llongau Masnach 1995
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgareddau a gyflawnir gan neu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol wrth arfer pŵer o dan Atodlen 3A i Ddeddf Llongau Masnach 1995 (cyfarwyddiadau diogelwch). Mae hyn hefyd yn cynnwys unrhyw unigolion sy’n cydymffurfio â chyfarwyddyd yr atodlen honno neu bersonau sy’n osgoi ymyrryd â chamau gweithredu a gymerir yn rhinwedd yr atodlen honno.
Pan fydd damwain wedi digwydd a bod risg i ddiogelwch neu lygredd yna nid oes angen trwydded ar gyfer unrhyw gamau gweithredu sy’n deillio o gyfarwyddiadau a roddir gan y llywodraeth i berchennog a meistr llong ac eraill sy’n ei rheoli. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penodi cynrychiolydd a fydd, yn ymarferol, fel arfer yn cyhoeddi’r cyfarwyddiadau hyn.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 7 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Gweithgareddau achub
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgareddau a gyflawnir yn ystod gweithrediad achub i sicrhau diogelwch llong neu atal llygredd. Nid yw hyn yn berthnasol i gael gwared ar longddrylliadau neu wrthrychau eraill o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 9 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Diffodd tân ac ati
Nid oes angen trwydded forol at ddiben diffodd unrhyw dân, nac atal ei ledaeniad.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 10 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Ymchwiliad i ddamwain awyr
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgareddau gollwng neu waredu a gyflawnir i adfer unrhyw sylwedd neu wrthrych fel rhan o ymchwiliad i ddamwain sy’n cynnwys awyren.
Mae hyn er mwyn cynorthwyo ymchwiliad cyflym i achosion damwain. Nid yw’n esemptio achub awyrennau hanesyddol.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 11 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Gweithrediadau pysgota
Nid oes angen trwydded forol mewn perthynas â’r gweithgareddau canlynol a gyflawnir wrth gynnal gweithrediad pysgota:
- gollwng offer pysgota (ac eithrio at ddiben gwaredu)
- gweithgaredd symud neu garthu at ddiben pysgota neu gymryd pysgod, neu gael gwared ar offer pysgota
- gollwng unrhyw bysgod neu wrthrych arall trwy eu dychwelyd i’r môr
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 12 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Mae “pysgod” yn cynnwys unrhyw ran o bysgodyn a physgod cregyn hefyd. Mae “offer pysgota” yn cynnwys offer a ddefnyddir i bysgota am neu gymryd pysgod cregyn, ond nid yw’n cynnwys unrhyw beth a ddefnyddir mewn cysylltiad â lluosogi neu feithrin pysgod cregyn.
Mae esemptiad penodol Erthygl 13 ar gyfer gweithgareddau gollwng, symud neu garthu a gyflawnir at ddiben lluosogi neu feithrin pysgod cregyn.
Lluosogi a meithrin pysgod cregyn
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer y gweithgareddau canlynol a gyflawnir wrth luosogi a meithrin pysgod cregyn:
- gollwng unrhyw bysgod cregyn, trestl, cawell, polyn, rhaff neu linell
- gweithgaredd symud neu weithgaredd carthu a gyflawnir at ddiben symud pysgod cregyn yn y môr
Amodau’r esemptiad hwn yw:
Nid yw’r gweithgaredd gollwng, gwaredu neu garthu
- at ddiben gwaredu
- at ddiben creu, newid neu gynnal riff artiffisial
- yn achosi neu’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth
- yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar ardal forol warchodedig
- at ddiben ehangu lluosogi neu feithrin pysgod cregyn y tu hwnt i ffiniau gweithgareddau presennol
Rhaid rhoi hysbysiad i Swyddfa Hydrograffig y DU o leiaf pum diwrnod cyn i unrhyw ollyngiad ddechrau, gan gynnwys manylion unrhyw adeileddau neu farciau a’u cyfesurynnau lledred a hydred yn ôl System Geodetig y Byd 1984.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 13 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Gollwng sylweddau trin cemegion morol ac olew morol ac ati
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gollwng unrhyw sylwedd trin cemegion morol, sylwedd trin olew morol, nac unrhyw sylwedd a ddefnyddir i gael gwared ar fater llygru arwyneb oddi ar wyneb y môr neu wely’r môr.
Mae’r esemptiad yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
- rhaid i’r sylwedd gael ei gymeradwyo at y diben hwn gan Cyfoeth Naturiol Cymru wrth weithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu
- rhaid defnyddio’r sylwedd yn unol ag unrhyw amodau y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt
- nid oes unrhyw beth yn cael ei ollwng mewn ardal o’r môr sydd â dyfnder o lai nag 20 metr neu o fewn un filltir forol o unrhyw ardal o’r fath, oni bai fod Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu, wedi rhoi cymeradwyaeth i wneud hynny
- ni ellir gollwng unrhyw sylwedd trin cemegion/olew morol islaw wyneb y môr, oni bai fod Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu, wedi rhoi cymeradwyaeth i wneud hynny
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 14 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Gollwng offer i reoli, cynnwys neu adfer olew ac ati
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gollwng unrhyw offer â’r nod o reoli, cynnwys neu adfer olew, cymysgeddau sy’n cynnwys olew, cemegion, broc môr neu ordyfiant algâu.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 15 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Offerynnau gwyddonol ac ati
Mewn llawer o achosion, ni fydd angen trwydded forol i ollwng offerynnau gwyddonol neu offer cysylltiedig mewn cysylltiad ag unrhyw arbrawf gwyddonol neu arolwg ar y môr (neu i’w symud ar ôl hynny).
Rhaid hysbysu Swyddfa Hydrograffig y DU am fanylion gollwng neu symud offerynnau gwyddonol neu offer cysylltiedig o leiaf pum diwrnod cyn i’w gollwng ac o fewn pum diwrnod i’w symud.
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gollwng adweithyddion neu ddeunyddiau olrhain sydd wedi’u cymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru wrth weithredu ar ran yr awdurdodau trwyddedu, ond rhaid eu defnyddio yn unol ag unrhyw amodau.
Nid yw’r esemptiad hwn yn berthnasol i’r canlynol:
- gollwng unrhyw beth at ddibenion gwaredu
- unrhyw ollyngiad a allai achosi neu sy’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth, yn enwedig lle mae gollyngiadau wedi’u clymu i wely’r môr neu pan fyddant yn lleihau’r cliriad mordwyol o fwy na 5% trwy gyfeirio at y seilnod siart
- unrhyw ollyngiad neu symudiad sy’n debygol o gael effaith arwyddocaol ar ardal forol warchodedig
Yn ogystal, rydym yn ystyried nad yw’r esemptiad yn berthnasol i’r canlynol:
- unrhyw waith adeiladu cysylltiedig – er enghraifft, i adeiladu adeiledd ar y môr i gynnwys offer gwyddonol
- unrhyw garthu – a ystyrir i fod yn unrhyw weithgaredd sy’n defnyddio unrhyw ddyfais i symud deunydd o un rhan o wely’r môr i ran arall (fel y’i diffinnir yn adran 66(2) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009)
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 16 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Gollwng wrth garthu agregau neu fwynau
Nid oes angen trwydded forol i ddychwelyd unrhyw sylwedd neu wrthrych i’r môr ar safle carthu a gymerwyd wrth garthu agregau neu fwynau. Mae gwrthrychau neu sylweddau yn golygu eitemau megis hen arfau rhyfel, sbwriel, neu eitemau swmpus eraill. (Nid yw hynny’n cynnwys yr agregau na’r mwynau sy’n cael eu carthu.) Fodd bynnag, lle mae’n ddiogel gwneud hynny, rydym yn annog yn gryf i longau ddychwelyd sbwriel i’r lan i’w ailgylchu.
Gall llong carthu agregau hefyd ollwng dŵr naill ai trwy ddychwelyd gorlifoedd trwy ei thyllau draenio neu drwy bwmpio dŵr o howld y llong i ddraenio cargo. Nid oes angen trwydded ar longau carthu ar gyfer gollyngiadau o’r fath yn ystod gweithrediad carthu o’r fath, ar ôl cwblhau’r gwaith carthu, nac ar y daith yn ôl i’r porthladd.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 17 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Gwaith cynnal a chadw mewn perthynas â diogelu’r arfordir, systemau draenio ac asedau amddiffyn rhag llifogydd
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgaredd a gyflawnir gan awdurdod rheoli risg Cymru, neu ar ran yr awdurdod diogelu’r arfordir (fel arfer yr awdurdod lleol), at ddiben cynnal gwaith diogelu’r arfordir, gwaith draenio, neu waith amddiffyn rhag llifogydd.
Mae’r esemptiad yn ddarostyngedig i’r amod bod y gweithgaredd yn cael ei gynnal o fewn ffiniau tri dimensiwn presennol y gwaith sy’n cael ei gynnal. Nid yw’n berthnasol i unrhyw weithgaredd sy’n cynnwys ailgyflenwi traeth.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 18 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Gwaith mewn argyfwng wrth ymateb i lifogydd neu berygl o lifogydd
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgareddau a gyflawnir ar gyfer gwaith brys mewn ymateb i unrhyw lifogydd neu’r perygl uniongyrchol o lifogydd.
Nid yw’r esemptiad yn berthnasol lle bu methiant i gynnal a chadw adeiledd cyn i lifogydd neu berygl o lifogydd ddigwydd.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 19 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Defnyddio cerbydau i gael gwared ar sbwriel, sbwriel morol, malurion neu anifeiliaid marw o draethau ac ardaloedd rhynglanwol
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer defnyddio cerbyd neu long i gael gwared ar sbwriel, sbwriel morol, malurion neu anifeiliaid marw o draethau ac ardaloedd rhynglanwol, neu offer pysgota sydd wedi’u gadael, wedi’u taflu neu wedi’u colli, ar yr amod bod y gweithgaredd yn cael ei gyflawni gan neu ar ran Gweinidogion Cymru, awdurdod lleol, awdurdod harbwr o fewn ei awdurdodaeth, Cyfoeth Naturiol Cymru neu elusen amgylcheddol. Ni ddylai elusen amgylcheddol symud anifeiliaid marw oni bai ei bod yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru neu awdurdod lleol. Rhaid hysbysu’r awdurdod gorfodi o’r bwriad i symud anifeiliaid marw cyn iddynt gael eu symud.
Nid yw’r esemptiad yn berthnasol os yw’r gweithgaredd yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar ardal forol warchodedig neu os yw’r gweithgaredd yn debygol o niweidio nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 20 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Gollwng wrth ymgymryd â mordwyo neu waith cynnal a chadw arferol
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gollwng o gerbyd, llong, awyren nac adeiledd morol wrth ymgymryd â mordwyo neu waith cynnal a chadw arferol neu unrhyw weithgaredd symud cysylltiedig. Bwriad yr esemptiad hwn yw caniatáu i weithgareddau arferol megis gollwng angorau, profi gorfodol ar offer diffodd tân neu sgleinio llafnau gwthio gael eu gwneud heb fod angen trwydded.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 21 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Nid yw hyn yn cynnwys gollwng at ddiben gwaredu.
Cynnal a chadw gwaith harbwr
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer y gweithgareddau gollwng, symud neu waith a gyflawnir gan neu ar ran awdurdod harbwr at ddiben cynnal a chadw unrhyw waith harbwr. Mae’r esemptiad yn ddarostyngedig i’r amod bod y gweithgaredd yn cael ei wneud o fewn ffiniau presennol y gwaith sy’n cael ei gynnal.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 22 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Dileu rhwystr neu berygl i fordwyaeth
Nid oes angen trwydded forol ar awdurdod gwarchodaeth, awdurdod harbwr, awdurdod goleudy, nac unrhyw gorff sydd â phwerau i gynnal camlas neu fordwyaeth mewndirol arall, gan gynnwys mordwyaeth mewn dyfroedd llanw, i gael gwared ar unrhyw beth sy’n achosi neu’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth.
Rhaid rhoi rhybudd i Swyddfa Hydrograffig y DU am y gweithgaredd symud o fewn pum diwrnod i’r symud.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 23 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Angorfeydd a chymhorthion mordwyo
Nid oes angen trwydded forol ar awdurdodau harbwr nac awdurdodau goleudai i ollwng, gwaredu, disodli na chynnal angorfeydd seilbyst neu angorfeydd cylchdroi (swing) ac mewn llinell sefydlog (trot) neu gymhorthion mordwyo (megis bwiau marcio). Nid oes angen trwydded chwaith ar bobl sy’n cyflawni gweithgareddau o’r fath gyda’r cydsyniad sy’n ofynnol gan, ac a roddir gan, awdurdod harbwr neu awdurdod goleudy.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 24 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Nid yw’r esemptiad hwn yn berthnasol i ollwng neu adeiladu badbontydd.
Marcwyr ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gwaith gollwng neu symud a wneir gan Cyfoeth Naturiol Cymru i osod neu symud marcwyr i nodi bodolaeth a ffiniau ardaloedd morol gwarchodedig.
Fodd bynnag, dylid rhoi hysbysiad o ollyngiadau neu symudiadau o’r fath o leiaf pum diwrnod cyn y gweithgareddau i Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, Tŷ’r Drindod a Swyddfa Hydrograffig y DU.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 25 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Lansio a chael gwared ar longau ac ati
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gollwng mewn cysylltiad â lansio cerbyd, llong, awyren, adeiledd morol neu gynhwysydd arnofiol a gweithgaredd symud dilynol.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 26 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Mae “llong” yn cynnwys y canlynol:
- hofrenfad
- unrhyw gwch arall sy’n gallu teithio ar, yn, neu o dan ddŵr, p'un a yw'n hunanyredig ai peidio
Ystyr “adeiledd morol” yw platfform neu adeiledd artiffisial arall ar y môr, ac eithrio piblinell.
Datgymalu llongau
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgaredd gollwng neu symud a gyflawnir fel rhan o ddatgymalu llong sy’n wastraff.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 27 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Llwybrau deifwyr mewn ardaloedd cyfyngedig ac mewn perthynas â henebion cofrestredig
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgaredd gollwng neu symud at ddiben gosod, clymu neu symud arwyddion neu farcwyr adnabod eraill ar gyfer deifwyr ar longddrylliadau sydd wedi’u gwarchod o dan Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau 1973, henebion cofrestredig fel y’u disgrifir yn Neddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, neu ardaloedd rheoledig a ddynodwyd yn Neddf Gwarchod Olion Milwrol 1986.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 28 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Gweithgareddau gwylwyr y glannau – dibenion diogelwch a hyfforddiant
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgaredd gollwng neu waredu a gyflawnir gan neu ar ran Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, neu unrhyw un sy’n gweithredu mewn cysylltiad â nhw, at ddiben sicrhau diogelwch llong, awyren neu adeiledd morol, achub bywyd neu eiddo, neu i hyfforddi ar gyfer sefyllfaoedd o’r fath.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 29 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Gollwng a defnyddio fflerau ac ati – dibenion diogelwch a hyfforddiant
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gollwng a defnyddio fflotiau mwg, fflerau trallod, neu sylwedd neu wrthrych pyrotechnig tebyg at ddiben sicrhau diogelwch llong, awyren neu adeiledd morol, achub bywyd, neu hyfforddi ar gyfer sefyllfaoedd o’r fath.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 30 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Ceblau a phiblinellau – archwilio ac atgyweirio brys awdurdodedig
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgaredd gollwng, symud neu garthu i gynnal gwaith archwilio neu atgyweirio brys i unrhyw gebl neu biblinell.
Fodd bynnag, rhaid rhoi gwybod i Swyddfa Hydrograffig y DU am unrhyw newidiadau a wneir i safleoedd ceblau a phibellau siartredig o fewn pum diwrnod ar ôl cwblhau unrhyw waith atgyweirio brys.
Nid yw’r esemptiad yn berthnasol i ollyngiadau a wneir i ddarparu amddiffyniad hirdymor i geblau neu biblinellau.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 31 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Twneli wedi’u tyllu
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgareddau sy’n gysylltiedig ag adeiladu neu weithredu twnnel wedi’i dyllu sy’n cael eu cynnal yn gyfan gwbl o dan wely’r môr.
Mae’r esemptiad yn ddarostyngedig i’r amodau na ddylai’r gweithgaredd wneud y canlynol:
- effeithio’n andwyol ar amgylchedd Cymru, rhanbarth glannau Cymru, rhanbarth dyfroedd môr mawr Cymru, neu’r adnoddau byw y mae’r amgylchedd yn eu cynnal
- achosi neu fod yn debygol o achosi perygl i fordwyaeth
- achosi difrod i nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol
Nid yw’r esemptiad yn berthnasol i unrhyw ollyngiadau a wneir at ddibenion gwaredu.
Nid yw’r esemptiad yn berthnasol i ollyngiadau dilynol unrhyw sylwedd yn y twnnel, fel ceblau a phiblinellau.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 32 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Hawliau llongau tramor ac ati o dan gyfraith ryngwladol
Nid oes angen trwydded forol pan gynhelir gweithgareddau wrth arfer hawl o dan reolau cyfraith ryngwladol, gan neu mewn perthynas â’r canlynol:
- llong trydydd gwlad (llong sy’n chwifio baner, neu sydd wedi’i chofrestru yn, unrhyw wladwriaeth neu diriogaeth (ac eithrio Gibraltar) nad yw’n aelod-wladwriaeth, neu nad yw wedi’i chofrestru mewn aelod-wladwriaeth)
- llong ryfel, llong gynorthwyol y llynges, neu long neu awyren arall sy’n eiddo i neu’n cael ei gweithredu gan unrhyw genedl pan gaiff ei defnyddio ar gyfer gwasanaeth anfasnachol y llywodraeth yn unig
Bwriad yr esemptiad hwn yw sicrhau nad yw hawliau o dan gyfraith forwrol ryngwladol gwledydd nad ydynt yn rhan o’r UE a llongau sofran o wledydd eraill yn cael eu torri.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 33 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Llwytho cerbyd neu long ac ati i’w llosgi y tu allan i Gymru a rhanbarth glannau Cymru
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer llwytho cerbyd, llong, awyren, adeiledd morol na chynhwysydd arnofiol gydag unrhyw sylwedd neu wrthrych i’w losgi y tu allan i Gymru a rhanbarth glannau Cymru cyn belled â bydd y llosgi’n digwydd o fewn rhanbarth glannau’r Alban neu yn ardal drwyddedu forol y DU.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 34 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Bwriad hyn yw cael gwared ar ddyblygu a fyddai fel arall yn cael ei achosi gan y gofyniad i gael trwydded o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 ac o dan Ddeddf y Môr (Yr Alban) 2010.
Byddai angen trwydded gan yr awdurdod trwyddedu perthnasol ar gyfer y gweithgaredd llosgi.
Nid yw’r esemptiad yn berthnasol os yw safle pen y daith ar gyfer llosgi y tu allan i ranbarth glannau’r Alban neu ardal drwyddedu forol y DU.
Mân waith arferol i gynnal pontydd, adeileddau cantilifrog, glanfeydd a phierau presennol
Nid oes angen trwydded forol pan fydd mân waith arferol yn cael ei wneud gan awdurdod lleol neu awdurdod harbwr, neu bersonau sy’n gweithredu ar eu rhan, i gynnal a chadw pontydd, adeileddau cantilifrog, glanfeydd neu bierau presennol.
Nid yw’r esemptiad yn berthnasol i’r canlynol:
- adeiladu adeileddau sy’n ofynnol i gefnogi mynediad
- gwaith carthu neu waredu
- unrhyw weithgaredd sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi perygl i fordwyaeth
- gweithgaredd sy’n lleihau’r cliriad aer uwchben y penllanw astronomaidd ar gyfer llongau sy’n mynd o dan bont
- gweithgaredd a allai gael effaith arwyddocaol ar ardal forol warchodedig
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 35 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Gwaredu llongau sydd wedi’u gadael neu longau moelion
Llongau sydd wedi’u gadael yw’r rhai lle nad yw’r perchennog yn hysbys, yn dilyn ymdrechion rhesymol i’w ganfod, neu lle mae wedi ildio hawliau perchnogaeth. Llongau moelion yw’r rhai mewn cyflwr gwael ac sydd wedi’u hesgeuluso.
Nid oes angen trwydded forol ar awdurdodau harbwr, Cyfoeth Naturiol Cymru na phersonau sy’n gweithredu ar eu rhan i ollwng na symud llongau sydd wedi’u gadael neu longau moelion.
Rhaid rhoi hysbysiad i Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau o leiaf 24 awr cyn unrhyw weithgaredd gollwng neu symud.
Nid yw’r esemptiad yn berthnasol os yw’r gweithgaredd yn achosi neu’n gallu achosi perygl i fordwyaeth, neu os gallai gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig.
Nid yw’r esemptiad yn berthnasol i symud llongddrylliad o fewn ardal a ddynodwyd yn ardal gyfyngedig o dan adran 1 o Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau 1973.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 36 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Arddangosfeydd tân gwyllt
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gollwng a defnyddio tân gwyllt fel rhan o arddangosfa tân gwyllt a chael gwared ar sbwriel cysylltiedig, cyn belled ag nad yw’r arddangosfa’n achosi neu’n debygol o achosi perygl i fordwyaeth neu gael effaith arwyddocaol ar ardal forol warchodedig.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 37 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Samplau ar gyfer profi neu ddadansoddi
Nid oes angen trwydded forol i symud deunydd o ddim mwy nag 1 m3 ar gyfer samplau i’w profi neu eu dadansoddi.
Nid yw’r esemptiad yn berthnasol o dan yr amgylchiadau canlynol:
- mae’r symudiad yn effeithio’n andwyol, neu’n debygol o effeithio’n andwyol, ar unrhyw fuddiant strategol y Weinyddiaeth Amddiffyn
- os bydd yn achosi neu’n debygol o achosi perygl i fordwyaeth
- os yw’n debygol o gael effaith arwyddocaol ar ardal forol warchodedig
- os yw’n dod o fewn ardal a ddynodwyd yn ardal gyfyngedig yn adran 1 o Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau 1973
- os yw’r symudiad yn debygol o achosi niwed i henebion cofrestredig, fel y nodir yn adran 3(7) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023
- os gallai achosi effaith andwyol i ardal a ddynodwyd yn safle rheoledig o dan adran 1(2)(b) o Ddeddf Gwarchod Olion Milwrol 1986
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 38 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Deifwyr yn symud sbwriel morol
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer symud sbwriel morol ac offer pysgota sydd wedi’u gadael, eu taflu neu eu colli yn ystod gweithgareddau deifio ar yr amod:
- nad yw eu symud yn cael effaith arwyddocaol ar ardal forol warchodedig
- ei bod yn annhebygol y bydd yn achosi difrod i nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol yn yr ardal lle mae’r deifio’n digwydd
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 39 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Gollyngiadau damweiniol - gweithgaredd symud
Nid oes angen trwydded forol i symud unrhyw wrthrych sydd wedi’i ollwng yn ddamweiniol ar wely’r môr cyn belled â bod y gwaith i wneud hyn yn dechrau o fewn 12 mis i’r diwrnod y cafodd y gwrthrych ei ollwng yn ddamweiniol.
Nid yw’r esemptiad yn berthnasol os yw’r gweithgaredd symud:
- yn achosi neu’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth
- yn debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 40 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Carthu cynnal a chadw at ddibenion mordwyo
Gall gweithgaredd carthu at ddiben gwarchod neu gynnal mordwyaeth ardal o’r môr fod wedi’i eithrio rhag y gofyn am drwydded forol ar yr amod:
- mai dim ond ar safle sydd wedi’i garthu, ac i ddyfnder sydd wedi’i garthu, o leiaf unwaith yn y deng mlynedd diwethaf at y diben hwn y mae’r gweithgaredd carthu yn cael ei wneud
- na chaiff mwy na 1,500 m3 o ddeunydd ei waredu o’r safle yn y 12 mis cyn y gweithgaredd, gan gynnwys y swm i’w gwaredu o’r carthu arfaethedig ac o weithgareddau carthu eraill a gyflawnir i warchod neu gynnal mordwyaeth yn yr ardal
Nid yw’r esemptiad yn berthnasol i’r canlynol:
- gweithgaredd carthu sy’n effeithio ar, neu sy’n debygol o effeithio’n andwyol ar, unrhyw fuddiant strategol y Weinyddiaeth Amddiffyn
- unrhyw weithgaredd carthu sy’n fwy na 500 m3
- unrhyw weithgaredd carthu sy’n achosi neu’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth
- unrhyw weithgaredd carthu sy’n debygol o gael effaith arwyddocaol ar ardal forol warchodedig
- unrhyw weithgaredd carthu sydd ag effaith, neu sy’n debygol o fod ag effaith, mewn perthynas ag unrhyw gorff dŵr, sydd:
- yn atal yr amcanion amgylcheddol a restrir yn y cynllun rheoli basn afon perthnasol fel y bo’n berthnasol mewn perthynas â’r corff dŵr hwnnw
- yn achosi difrod amgylcheddol
- unrhyw waredu deunydd wedi’i garthu
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 41 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Mae gan y termau “corff dŵr” (“body of water”) a “chynllun rheoli basn afon” (“river basin management plan”) yr un ystyr ag yn Rheoliad 2 o Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017.
Mae gan y term “difrod amgylcheddol” (“environmental damage”) yr un ystyr ag yn Rheoliad 4 o Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009.
Marcwyr dros dro
Nid oes angen trwydded forol i osod marcwyr neu offer cysylltiedig i farcio ardaloedd ar gyfer gweithgareddau hamdden fel hwylio, nofio neu ddeifio ar yr amod:
- os yw’r marcwyr i’w gosod am fwy na 24 awr, y rhoddir rhybudd i Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a Thŷ’r Drindod o leiaf pum diwrnod cyn eu gollwng
- bod unrhyw farciwr neu offer cysylltiedig yn cael eu symud o fewn 28 diwrnod o’r diwrnod y’u gosodwyd
Nid yw’r esemptiad yn berthnasol os yw’r gweithgaredd symud:
- yn achosi neu’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth
- yn debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 42 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Sefydlu neu adfer gwely morwellt
Gall y gweithgareddau canlynol fod wedi’u heithrio rhag y gofyniad i gael trwydded forol:
- unrhyw weithgaredd gollwng neu symud ar gyfer sefydlu neu adfer gwely morwellt
- gollwng unrhyw rywogaeth gynhenid o hadau, toriadau neu blanhigion morwellt i sefydlu neu adfer gwely morwellt
- gweithgaredd symud at ddiben symud hadau, toriadau neu blanhigion morwellt i sefydlu neu adfer gwely morwellt cyn belled ag nad yw’n effeithio ar y gwely cyfrannol
- symud creiddiau neu dyweirch morwellt i sefydlu neu adfer gwely morwellt cyn belled ag nad yw’n effeithio’n negyddol ar y gwely cyfrannol
Amodau’r esemptiad hwn yw:
- bod yn rhaid i unrhyw waith i symud neu ollwng hadau morwellt o wely cyfrannol iach i ardal arall ddilyn canllawiau’r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur ar gyfer ailgyflwyno rhywogaethau a thrawsleoliadau eraill at ddibenion cadwraeth
- bod unrhyw had, toriad neu blanhigyn morwellt brodorol yn rhydd o rywogaethau estron goresgynnol
- na ddylai unrhyw weithgaredd effeithio’n andwyol, neu fod yn debygol o effeithio, ar unrhyw fuddiant strategol y Weinyddiaeth Amddiffyn
Nid yw’r esemptiad yn berthnasol i’r canlynol:
- gollyngiadau a wneir at ddibenion gwaredu
- gweithgareddau gollwng neu symud sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth
- gweithgareddau gollwng neu symud sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig
- gweithgareddau gollwng neu symud sy’n debygol o achosi difrod i nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol
- gollyngiadau sy’n cynnwys unrhyw ddeunyddiau anfioddiraddiadwy neu sylweddau niweidiol
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 43 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Rhywogaethau brodorol yw rhywogaethau sy’n bresennol yn naturiol yng Nghymru, neu sydd wedi bod yn bresennol yn naturiol yma yn y gorffennol, gan gynnwys:
- rhywogaethau mudol sy’n bresennol yn rheolaidd (sy’n bridio ac nad ydynt yn bridio) a chytrefwyr naturiol
- rhywogaethau sydd wedi cael eu hailgyflwyno yng Nghymru yn dilyn difodiant yn y gorffennol
Mae cytrefwyr naturiol yn golygu rhywogaethau a gyrhaeddodd Cymru o’u hewyllys eu hunain ac sydd wedi ymsefydlu, gan gynnwys y rhai sy’n dod yn rhywogaethau mudol.
Gwaith uwchraddio i adeileddau arfordirol, draenio ac amddiffyn rhag llifogydd
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gwaith uwchraddio i adeileddau diogelu’r arfordir, systemau draenio neu asedau amddiffyn rhag llifogydd a gyflawnir gan neu ar ran awdurdod rheoli risg Cymru neu awdurdod diogelu’r arfordir lle mae angen caniatâd cynllunio lleol ar gyfer y gwaith uwchraddio ar yr amod:
- bod y gweithgaredd gollwng neu symud yn cael ei wneud o fewn ffiniau tri dimensiwn presennol yr adeileddau sy’n destun y gwaith cynnal a chadw
- hysbysir Swyddfa Hydrograffig y DU pum diwrnod cyn i’r gweithgaredd ddechrau
Nid yw’r esemptiad yn berthnasol i unrhyw waith adeiladu, gollwng na symud sy’n ymestyn islaw marc distyll cymedrig y gorllanw.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 44 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Cyfleusterau dociau sych
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgareddau gollwng neu symud mewn doc sych o fewn harbwr sy’n cael ei reoleiddio o dan Ddeddf Harbyrau 1964 lle mae’r gwaith yn cael ei wneud gan, neu ar ran, awdurdod harbwr, ar yr amod:
- y rhoddir hysbysiad i Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a Thŷ’r Drindod o leiaf pum diwrnod cyn i’r gweithgaredd ddechrau
- y caiff yr holl falurion eu gwaredu o’r doc sych cyn i unrhyw long fynd i mewn neu allan
Nid yw’r esemptiad yn berthnasol os yw’r gweithgaredd symud:
- yn achosi neu’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth
- yn debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig
- yn debygol o achosi difrod i nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 45 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Gollwng cemegion ac olew ar y môr
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer unrhyw weithgaredd sydd angen trwydded o dan Reoliadau Cemegion Alltraeth 2002 neu Reoliadau Gweithgareddau Petrolewm Alltraeth (Atal a Rheoli Llygredd Olew) 2005.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 46 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Symud tywod wedi’i chwythu gan y gwynt a’i ollwng wedyn
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer clirio tywod sydd wedi’i chwythu ar bromenadau, ffyrdd neu lithrfeydd yn dilyn storm gan awdurdod lleol, awdurdod harbwr, Cyfoeth Naturiol Cymru neu unrhyw un sy’n gweithredu ar eu rhan, ar yr amod:
- bod y tywod yn rhydd o sbwriel morol, malurion a halogion o’r tir y caiff
- y tywod ei ollwng yn ôl ar draeth o fewn saith diwrnod ar ôl iddo gael ei chwythu i’r promenâd, y ffordd neu’r llithrfa
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 47 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Badbontydd
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gollwng neu symud badbont, neu gynnal gwaith arni, o fewn terfynau harbwr neu borthladd pan roddir cydsyniad gan awdurdod harbwr.
Amodau’r esemptiad hwn:
- nid oes mwy na deg badbont wedi’u hadeiladu na’u gollwng ar yr un safle yn ystod y chwe mis blaenorol
- rhaid i’r fadbont fod yn rhydd o rywogaethau estron goresgynnol cyn y gweithgaredd gollwng neu waith ddigwydd
Nid yw’r esemptiad yn berthnasol i’r canlynol:
- badbontydd sydd â maint dec sy’n fwy na 30 m3
- unrhyw annedd, adeiledd parhaol neu seilwaith sydd wedi’i roi neu ei osod ar ben badbont
- unrhyw waith gosod seilbyst
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 48 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Tyllau prawf
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgareddau gollwng neu symud a gyflawnir ar gyfer cloddio ac ôl-lenwi tyllau prawf ar yr amod nad yw’r deunyddiau a symudir o wely’r môr fel rhan o gynllun neu brosiect yn fwy na 5 m3.
Nid yw’r esemptiad yn berthnasol os yw’r gweithgareddau:
- yn achosi neu’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth
- yn debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig
- yn debygol o achosi difrod i nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 49 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Tyllau turio
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgareddau gollwng neu symud a gyflawnir at ddibenion tynnu deunydd o wely’r môr, na gwrthrychau neu ddeunyddiau, mewn cysylltiad â thyllau turio, ar yr amod na chaiff mwy na 5 m3 o ddeunydd ei dynnu o wely’r môr fel rhan o unrhyw gynllun neu brosiect.
Nid yw’r esemptiad yn berthnasol os yw’r gweithgareddau:
- yn achosi neu’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth
- yn debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig
- yn debygol o achosi difrod i nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 50 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Samplu Vibrocore
Samplu Vibrocore yw’r dechneg lle mae tiwb craidd sy’n dirgrynu yn cael ei roi i mewn i waddodion tanddwr megis tywod, silt, clai neu briddoedd meddal gan ddefnyddio pen dirgrynu sy’n cael ei bweru’n electronig neu’n hydrolig ac sy’n adfer craidd parhaus.
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgareddau gollwng neu symud a gyflawnir at ddibenion tynnu deunydd o wely'r môr drwy samplu Vibrocore ar yr amod na chaiff mwy na 5 m3 o ddeunydd ei symud fel rhan o unrhyw gynllun neu brosiect.
Nid yw’r esemptiad yn berthnasol os yw’r gweithgareddau:
- yn achosi neu’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth
- yn debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig
- yn debygol o achosi difrod i nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 51 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Glanhau cyrff llongau yn y dŵr
Os caiff sylwedd ei dynnu oddi ar gorff llong wrth ei lanhau â llaw gan ddefnyddio lliain meddal, sbwng neu flew brwsh meddal, nid oes angen trwydded forol.
Mae hyn wedi’i gynnwys yn Erthygl 52 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Esemptiadau ar gyfer rhai gweithgareddau carthu
Nid oes angen trwydded forol pan fydd gweithgaredd carthu, neu waredu sborion sy’n deillio o’r gweithgaredd hwnnw, yn cael ei gynnal gan neu ar ran awdurdod harbwr ac mae wedi’i awdurdodi gan, ac yn cael ei gynnal yn unol ag, unrhyw Ddeddf leol neu Ddeddf Harbyrau 1964.
Os yw’r gweithgaredd yn cynnwys adfer neu waredu deunydd a garthwyd, rhaid bodloni’r amodau canlynol hefyd:
- mae’r gweithgaredd carthu a gwaredu yn cynnwys adleoli gwaddodion y tu mewn i ddyfroedd wyneb
- pwrpas y gollwng yw un o’r canlynol:
- rheoli dyfroedd neu ddyfrffyrdd
- atal llifogydd
- lliniaru effeithiau llifogydd neu sychder
- adfer tir
- profi er boddhad Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu, nad yw’r gwaddodion yn wastraff peryglus
Mae hyn wedi’i gynnwys yn adran 75 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.