Os yw eich gollyngiadau i ddŵr wyneb yn cynnwys cemegau ac elfennau peryglus, efallai y bydd yn rhaid i ni gwblhau Asesiad Risg Amgylcheddol wrth asesu eich cais am drwydded. Mae hyn yn gofyn am dalu ffi ychwanegol ar ben y ffi ymgeisio am Drwydded Amgylcheddol.

Beth yw cemegau ac elfennau peryglus?

Gelwir y cemegau a’r elfennau peryglus hyn yn ‘sylweddau penodol’.

Gellir lawrlwytho manylion pob sylwedd o Gov.uk

Sut ydw i'n gwybod a ydyn nhw yn fy ngollyngiadau i?

Mae cemegau ac elfennau peryglus yn debygol o fod yn y gollyngiad os:

  • caniateir iddynt gael eu hychwanegu at y gollyngiad (er enghraifft caniatâd elifion masnach cwmni dŵr neu ollyngiadau o osodiadau)
  • rydych wedi'u hychwanegu at y gollyngiad (er enghraifft o weithgarwch, neu lle gallech fod wedi ychwanegu haearn neu alwminiwm i dynnu ffosfforws).
  • rydych chi wedi'u canfod gan ddefnyddio dadansoddiad cemegol

Beth mae'r Asesiad Risg Amgylcheddol yn ei wneud?

Mae'r asesiad yn cynnwys profion modelu i ddangos a fydd eich gollyngiad yn achosi llygredd. Os yw'r profion modelu'n dangos y bydd eich gollyngiad yn achosi llygredd, byddwn yn cynnwys amodau i reoli'r cemegyn neu'r elfen beryglus yn eich trwydded, neu efallai y byddwn yn gwrthod eich cais am drwydded os yw'r effaith ar yr amgylchedd yn annerbyniol.

Sut allaf gael rhagor o wybodaeth?

Os nad ydych yn siŵr a fydd angen Asesiad Risg Amgylcheddol ar eich gollyngiad, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio am Drwydded Amgylcheddol a byddwn yn dweud wrthych a fydd angen i ni gynnal un wrth asesu eich cais am drwydded.

Diweddarwyd ddiwethaf