Trwyddedau ar gyfer gollyngiadau o rwydweithiau carthffosiaeth cwmnïau dŵr
Sut i wneud cais am drwydded newydd i ollwng elifion carthion wedi’u trin o waith trin dŵr gwastraff cwmni dŵr
Sut i newid trwydded bresennol ar gyfer gollyngiadau elifion carthion wedi’u trin o waith trin dŵr gwastraff cwmni dŵr
Darganfyddwch sut i drosglwyddo eich trwydded bresennol i rywun arall
Darganfyddwch sut i ildio eich trwydded
Ffioedd a Thaliadau
|
Gweithgarwch arfaethedig |
Ffi |
|---|---|
|
Cais newydd am drwydded |
£6,092 |
|
Amrywiad – Sylweddol |
£4,872 |
|
Amrywiad – arferol |
£3,046 |
|
Amrywiad – mân |
£915 |
|
Amrywiad – gweinyddu |
£386 |
|
Trosglwyddo’r drwydded |
£386 |
|
Ildio’r drwydded |
£386 |
|
Os na allwn wneud y cais yn briodol, byddwn yn cadw |
£622 |
|
Os byddwch yn tynnu eich cais yn ôl ar ôl iddo gael ei wneud, byddwn yn cadw |
£6,092 |
Ffi Asesiadau Cynefinoedd
Os yw eich gollyngiadau’n agos at safle cynefin Ewropeaidd cydnabyddedig, bydd angen i ni gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) wrth asesu eich cais am drwydded. Bydd hyn yn gofyn am dalu ffi ychwanegol o £3,046.
Ffi Asesiadau Risg Amgylcheddol
Os yw eich gollyngiadau i ddŵr wyneb yn cynnwys cemegau ac elfennau peryglus efallai y bydd angen i ni gwblhau Asesiad Risg Amgylcheddol wrth asesu eich cais am drwydded. Bydd hyn yn gofyn am dalu ffi ychwanegol o £3,046.
Ffi flynyddol
Bydd tâl blynyddol parhaus i dalu ein costau cynnal ac adolygu eich trwydded, gan sicrhau eich bod yn cydymffurfio ag amodau’r drwydded a monitro’r corff dŵr rydych yn gollwng iddo.
Darllenwch fwy am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi tâl am drwyddedau amgylcheddol.